Grŵp Trawsbleidiol Cymru – Siopau Bach: Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS)
Dydd Mercher 12 Gorffennaf, 12:15 – 13:15: Microsoft Teams (Ar-lein)
COFNODION
YN BRESENNOL:
Enw |
Sefydliad |
Cofnodion |
Edward Woodall |
Y Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) |
EW |
Daniel Askew |
Y Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) |
DA |
Willem Van De Ven |
Y Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) |
WV |
Julie James |
Y Gweinidog Newid Hinsawdd |
JJ |
Rhys Thomas |
Aelod o staff cymorth Sam Rowlands AS |
RT |
Tom Perry |
Aelod o staff cymorth Tom Giffard AS |
TP |
Vince Tenby |
Tenby Stores |
VT |
Ruth Buckley-Salmon |
Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri |
|
Robin Lewis |
Aelod o staff cymorth Vikki Howells AS |
RL |
Vikki Howells |
AS dros Gwm Cynon |
VH |
Howard Davies |
Llywodraeth Cymru |
HD |
John Halliday |
Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain |
JH |
Gwen Patterson |
Ffederasiwn y Manwerthwyr Annibynnol |
GP |
Philip Fenton |
British Glass |
PF |
Laura McCormack |
Cymdeithas y Llyfrwerthwyr |
LC |
Arianne Fleming |
British Glass |
AF |
Rosina Robson |
Y Ffederasiwn Gwallt a Harddwch Cenedlaethol (NHBF) |
RR |
Eleanor O’Brien |
British Glass |
EB |
Benjamin Sullivan |
Ysgrifennydd Preifat i’r Gweinidog Newid Hinsawdd |
BS |
Sarah Horner |
Llywodraeth Cymru |
SH |
Seonag MacKinnon |
Ffederasiwn y Manwerthwyr Annibynnol |
SM |
Ioan Bellin |
Aelod o staff cymorth Rhys ab Owen AS |
IB |
Russell George |
AS dros Sir Drefaldwyn |
RG |
1. Ymddiheuriadau
Andrew Goodacre – Cymdeithas Manwerthwyr Annibynnol Prydain
Lucy Reece Raybould – British Footwear Association
2. Croeso a chyflwyniadau
Croesawodd VH y rhai a oedd yn bresennol, gan amlinellu’r rhaglen weithgareddau ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol.
3. Siopau Lleol a'r Cynllun Dychwelyd Ernes
Amlinellodd EW sut mae'r Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) yn gweithio, y datblygiadau diweddaraf mewn perthynas â’r mater hwn yng Nghymru, ystyriaethau allweddol ar gyfer manwerthwyr sy'n gweithredu'r cynllun, yn ogystal ag argymhellion i Lywodraeth Cymru o ran sicrhau bod y cynllun yn gweithio'n effeithiol.
4. Cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes
Cyflwynodd JJ ei hun i bawb a oedd yn bresennol. Rhoddodd drosolwg byr o'r datblygiadau diweddaraf ynghylch y cynllun arfaethedig yng nghyd-destun Llywodraeth Cymru, gan ofyn i’r rhai a oedd yn bresennol i gyflwyno cwestiynau pwysig ynglŷn â’r cynllun.
5. Sesiwn holi ac ateb gyda’r Gweinidog
Tynnodd VM sylw'r Gweinidog at bryderon allweddol ynghylch y gost o weithredu'r cynllun dychwelyd ernes mewn siopau a'r enillion ar fuddsoddiad. Ymatebodd JJ a HD drwy dynnu sylw at weithgarwch parhaus Llywodraeth Cymru o ran casglu adborth a mewnbwn gan fusnesau, a hynny er mwyn sicrhau bod y cynllun yn addas at y diben ac yn apelgar i fusnesau o ran ei weithredu.
Dywedodd EW wrth JJ y dylai Llywodraeth Cymru ystyried o ddifrif y cam o fapio’r cynllun yn strategol, a hynny er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei weithredu'n effeithiol mewn ardaloedd lleol ar gyfer cwsmeriaid sy'n dychwelyd eitemau a busnesau sydd am gymryd rhan yn y cynllun. Gwnaeth HD gydnabod argymhelliad EW. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn gwneud ymdrech sylweddol i ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid ehangach ac i archwilio gwaith ymchwil pellach er mwyn datblygu dull gweithredu effeithiol o ran mapio strategol.
Gofynnodd RM i JJ sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi polisïau arfaethedig ynghylch y cynllun ac yn eu cyfleu’n glir i fanwerthwyr, a hynny yng ngoleuni’r ystod eang o reoliadau amgylcheddol presennol ac arfaethedig sy’n effeithio ar fusnesau, sy’n aml yn cael eu drysu o ran pa reoliadau sy’n berthnasol iddynt. Tynnodd HD sylw at yr adnoddau sydd gan Lywodraeth Cymru at ddefnydd busnesau ar hyn o bryd, gan gynnwys canllawiau a gwybodaeth am bolisïau presennol a pholisïau sydd yn yr arfaeth.
6. Sylwadau i gloi
Rhoddodd VH grynodeb o’r cyfarfod a diolchodd i bawb am fod yn bresennol.